PiCoS i gyflenwyr

PiCoS yw’r system fewnol newydd sbon sy’n cyfuno’r prosesau cynnig a chomisiynu cynnwys Radio a Theledu mewn un lle. Mae’r system wedi cael ei theilwra i wella cydweithio creadigol, i barhau i ddarparu cynnwys effeithiol i gynulleidfaoedd ac i wneud y broses o greu cynnwys yn fwy effeithlon a chydweithredol i bawb dan sylw o’r dechrau i’r diwedd.

Pryd fydd PiCoS yn fyw?

Mae PiCoS bellach yn fyw i ddefnyddwyr teledu. Nid yw Pitch ar gael ers dydd Gwener 8 Mawrth 2024 ac mae’r holl gyflwyniadau wedi cael eu trosglwyddo i System PiCoS.

Os ydych chi’n cynnig syniadau ar gyfer sain, bydd PiCoS yn fyw ar gyfer rowndiau sain newydd, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, ar sail rhwydwaith. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y briff comisiynu ar y wefan comisiynu radio ar gyfer pa system y dylech chi fod yn ei defnyddio. Gweler isod am y wybodaeth ddiweddaraf am rwydweithiau radio sydd wedi gorffen symud neu cysylltwch â [email protected] os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi am ddefnyddio Proteus neu PiCoS i gynnig syniad yn ystod y cyfnod hwn.

Symud Data

Teledu - Bydd yr holl gynigion sy’n cael eu cynnig cyn y dyddiad symud yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i PiCoS. Mae’r defnyddwyr a’r cyflenwyr gweithredol presennol wedi cael eu symud hefyd.

Radio – Mae cyflenwyr a defnyddwyr gweithredol presennol wedi cael eu symud. Mae rowndiau, briffiau a chynigion y rhwydweithiau canlynol wedi cael eu symud, felly dylech chi nawr ddefnyddio PiCoS ar gyfer pob cyflwyniad a chomisiynu:

• Radio 1

• Radio 2

• Radio 3

• Radio 4

• OD Sounds Music

Defnyddio PiCoS

Mae modd cyrraedd PiCoS drwy BBC Login. Os oes gennych chi gyfrif BBC Login yn barod, fydd ddim angen i chi ei osod eto a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut mae defnyddio’r system newydd. Efallai eich bod wedi defnyddio BBC Login i ddefnyddio systemau fel MyDevelopment neu’r Compliance Manager.

Os nad oes gennych chi gyfrif BBC Login eto, byddwch yn cael neges e-bost o [email protected] a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau i greu un. Mae’n werth taro golwg yn eich ffolderi sbam neu sothach os na fyddwch yn cael y neges hon. Ar ôl i chi gael yr e-bost hwn, mae gennych 14 diwrnod i weithredu arno. Ar ôl i chi greu cyfrif BBC Login byddwch yn cael neges e-bost arall pan fyddwch wedi cael mynediad at PiCoS. Os byddwch chi angen help i greu eich cyfrif BBC Login gallwch lwytho rhagor o wybodaeth i lawr yma.

Fydd unrhyw gyfrif Pitch neu Proteus sydd heb gael ei ddefnyddio yn ystod y 2 flynedd diwethaf ddim yn cael ei symud i PiCoS yn awtomatig. Os nad oes e-bost yn dod i law a bod arnoch angen mynediad at PiCoS cyflwynwch gais gan ddefnyddio’r ffurflen hon neu cysylltwch â [email protected].

Hyfforddiant a Chymorth

Mae PiCoS yn reddfol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Bydd cardiau cymorth a fideo hyfforddi ar gael i’ch helpu wrth i chi ddechrau arni yn PiCoS.

Unrhyw gwestiynau?

Os gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cyflwynwch gais gan ddefnyddio’r ffurflen hon neu cysylltwch â ni yn [email protected].

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: