Cofnodi tymheredd uchaf y DU yn 2025 yng Ngheredigion

Mae Cymru gyfan wedi gweld tywydd cynnes dros y dyddiau diwethaf - dyma oedd yr olygfa yn Llangollen ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Dydd Mawrth oedd diwrnod poetha'r flwyddyn hyd yma, gyda'r tymheredd uchaf yn y Deyrnas Unedig yn cael ei gofnodi yng Ngheredigion.
Trawsgoed ger Aberystwyth oedd y man poethaf ym Mhrydain, yn ôl mesuriadau'r Swyddfa Dywydd, gyda thymheredd o 24.9C (76.8F) yn cael ei gofnodi yno.
Cafodd yr un tymheredd ei gofnodi yn Rhosan ar Wy (Ross-on-Wye) yng nghanolbarth Lloegr - gan dorri'r record flaenorol eleni o 24.5C a gafodd ei osod yn Llundain ddydd Llun.
Mae arbenigwyr yn rhagweld mwy o dywydd braf dros y dyddiau nesaf, ac y gallwn ni weld y dechrau poethaf i fis Mai ar gofnod.
Fe allai'r tymheredd godi i hyd at 29C mewn rhannau o'r DU ddydd Iau, gyda disgwyl i lefelau paill a UV barhau yn uchel.
Er hynny, mae disgwyl i dymereddau ostwng yn raddol dros y penwythnos i rhwng 12-17C ddydd Llun, sy'n debycach i'r hyn sydd i'w ddisgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.