Degau'n sâl ar ôl sesiynau mwytho anifeiliaid ar fferm

- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio ar ôl i o leiaf 28 o bobl gael haint ar ôl mynychu sesiynau bwydo a rhoi mwythau i loi ac ŵyn ar fferm.
Mae cyrff iechyd cyhoeddus yn ymchwilio i achosion o haint cryptosporidiwm mewn pobl oedd wedi ymweld â Siop Fferm y Bont-faen ar fferm Malborough Grange ym Mro Morgannwg.
Mae cryptosporidiwm yn baraseit sy'n gallu achosi salwch gastroberfeddol, ac mae'n aml yn gysylltiedig ag anifeiliaid - yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y siop wedi penderfynu atal y sesiynau bwydo a mwythau a'u bod yn cydweithio â'r ymchwiliad.
Maen nhw'n ymchwilio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Chyngor Bro Morgannwg.
Mewn neges ar Facebook - sydd bellach wedi'i dileu - mae'r fferm yn dweud iddyn nhw orfod cau'r profiad bwydo "o ganlyniad i amgylchiadau nad oeddem wedi rhagweld", gan ymddiheuro i'r rheiny oedd wedi archebu o flaen llaw a dweud bod modd iddyn nhw gael ad-daliad llawn.

Mae Alba wedi bod yn sâl ar ôl ymweld â'r fferm ddwywaith yn ddiweddar
Un fu'n ymweld â'r fferm yn ddiweddar oedd Vici Dobinson gyda'i gŵr a'i merch Alba, sy'n wyth oed.
Fe aethon nhw i'r fferm ar 8 Ebrill i fwydo'r ŵyn, cyn mynd yno eto ar 17 Ebrill i fwydo'r lloi.
Mae Alba wedi bod yn sâl, ac er nad ydyn nhw wedi cael cadarnhad mai cryptosporidiwm yw'r salwch, mae ei mam yn dweud bod "yr amserlen yn ffitio'n berffaith".
"Roedd yr ŵyn dal yna pan aethon ni yr eildro ac fe wnaeth Alba ofyn i fynd i weld nhw eto," meddai Ms Dobinson.
Dywedodd fod yr ŵyn wedi gwneud baw ar Alba, ond eu bod wedi golchi eu dwylo cyn gadael y safle.
Ond erbyn y dydd Mercher canlynol roedd ganddi ddolur rhydd ac yn chwydu.
Dywedodd fod "peidio â chael gwybod bod achosion yna yn rhwystredig".

Dywedodd Vici Dobinson bod "yr amserlen yn ffitio'n berffaith" mai cryptosporidiwm o'r fferm yw achos salwch Alba
Dywedodd Su Mably o Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eu bod yn "gweithio'n agos gyda phartneriaid i ymchwilio i'r achosion yma ac i ddeall a oes risg ehangach i'r cyhoedd.
"Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi ymweld â'r fferm, yn enwedig y rheiny a aeth i'r sesiynau bwydo a mwythau, ac sydd nawr yn profi symptomau, i gysylltu â'u meddyg teulu.
Mae prif symptomau cryptosporidiwm yn cynnwys dolur rhydd, poenau yn y stumog, teimlo'n sâl, gwres, dim awydd bwyd a cholli pwysau.
"Mae symptomau fel arfer yn cychwyn rhwng dau ddiwrnod a 10 ddiwrnod ar ôl cyswllt gyda'r paraseit ac mae'n gallu para am hyd at bythefnos," ychwanegodd.
"Gall plant a phobl sydd â system imiwnedd gwan fod yn agored iawn i effeithiau'r haint."
Fe wnaeth ICC hefyd annog pobl i ddilyn trefn hylendid da wrth ymweld â ffermydd, gan gynnwys golchi dwylo ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid, peidio bwyta neu yfed ar y safle, tynnu sgidiau a'u gadael y tu allan, a chadw golwg ar blant bach.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam o Gyngor Bro Morgannwg fod yr awdurdod yn ymwybodol o'r achosion o'r haint a'u bod yn "gweithio gyda'r busnes i rwystro unrhyw achosion eraill".