Abertawe yn penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol

Alan SheehanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sheehan ei benodi yn rheolwr dros-dro ym mis Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol ar gytundeb tair blynedd.

Cafodd Sheehan, 38, ei benodi yn rheolwr dros-dro ym mis Chwefror yn dilyn ymadawiad Luke Williams, ac mae wedi creu argraff.

Ar ôl colli saith gêm mewn naw cyn i Sheehan gymryd yr awenau, mae'r Elyrch wedi ennill 23 o bwyntiau mewn 12 gêm ac wedi codi i hanner ucha'r tabl.

Yn dilyn cyfnodau fel hyfforddwr gyda Luton Town a Southampton, cafodd y Gwyddel ei benodi'n is-reolwr yn Abertawe yn ystod haf 2023.

Dywedodd Sheehan ei fod yn "fraint" bod gyda'r clwb, "a nawr mae gen i'r fraint o fod yn brif hyfforddwr yn swyddogol," meddai.

Fe fydd ymgyrch Abertawe yn y Bencampwriaeth eleni yn dod i ben gyda gêm gartref yn erbyn Rhydychen ddydd Sadwrn.