Prinder hyfforddwyr gyrru yn 'achosi oedi gyda phrofion'

- Cyhoeddwyd
Mae prinder hyfforddwyr gyrru yn golygu fod nifer o yrwyr dan hyfforddiant yn gorfod aros yn hir cyn sefyll eu prawf ymarferol, yn ôl rhai sy'n gweithio yn y maes.
Mae hyfforddwyr yn dweud bod oedi wrth archebu eu harholiadau eu hunain, costau "enfawr", a phrosesau "cymhleth" yn golygu bod llai eisiau gweithio yn y diwydiant.
Dywedodd adran drafnidiaeth Llywodraeth y DU eu bod yn gobeithio dyblu nifer yr arholwyr y mae modd eu hyfforddi erbyn haf 2026.
Ond mae hyfforddwyr wedi cwestiynu'r cynlluniau ac yn ofni y gallai'r system "ddod i stop".
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
Mae'r BBC wedi darganfod bod tri chwarter o'r 319 o ganolfannau prawf gyrru ledled y DU wedi cyrraedd yr uchafswm am amser aros cyfartalog i archebu prawf ymarferol, sef 24 wythnos.
Mae diffyg hyfforddwyr yn un o'r ffactorau sydd wedi arwain at hyn.
Mae nifer yr hyfforddwyr gyrru cofrestredig (ADIs) wedi gostwng 10% dros y degawd diwethaf, tra bod nifer y cofrestriadau newydd ar gyfer 2024-25 (1,553) wedi haneru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, yn ôl ffigyrau'r Adran Drafnidiaeth.
Mae gan hyfforddwyr sydd dan hyfforddiant ddwy flynedd i basio pedwar prawf ar ôl sefyll y cyntaf, ond yn aml mae'n rhaid aros misoedd am ddyddiad arholiad - sy'n golygu bod nifer yn ei chael hi'n anodd cwblhau'r cwrs mewn pryd.

"Does dim digon o arholwyr," meddai Elwyn Marfell-Jones
"Does dim digon o arholwyr," yn ôl Elwyn Marfell-Jones, 60, prif hyfforddwr ysgol yrru Auto Learners yn Abertawe.
"Mae llawer yn cael eu tynnu ar draws i helpu clirio'r rhestrau aros am brofion gyrru ond mae hynny'n cael effaith wedyn ar addysgu hyfforddwyr ac arholwyr newydd," meddai.
"Rydyn ni mewn llanast pan chi'n ystyried bod y broblem hon wedi bod yn gwaethygu'n raddol ers Covid a does dim byd wedi'i wneud i ddatrys y peth.
"Mae hyn wedi bod yn dod ac mae'r system yn mynd i ddod i stop.
"Gall y gost nawr fod yn enfawr gyda chostau profion - a thalu £50 yr awr am o leiaf 40 awr o hyfforddiant.
"Ac mae'r profion yn afresymol o anodd. Pan fydd gennych chi gyfradd basio isel iawn o tua 28%, mae'n rhaid i chi ofyn, a oes rhywbeth o'i le gyda'r profion?"
'Straen' ar hyfforddwyr
Mae Mr Marfell-Jones yn dysgu pedwar hyfforddwr sydd dan hyfforddiant ond mae'n ofni na fydd pob un yn cwblhau'r cwrs.
"Cafodd prawf un hyfforddwr ei ganslo ar fore'r prawf a bu'n rhaid iddi aros pedwar mis am ddyddiad newydd," meddai.
"Gallai'r straen a'r gost o fynd drwy'r hyfforddiant mewn cyfnod byr, sy'n lleihau drwy'r amser, fod yn ormod iddi.
"Mae hi wedi gweithio'n galed iawn i gael gyrfa newydd tra'n gweithio fel gofalwr yn y cartref hefyd, ond mae hi wedi cael ei rhwystro oherwydd y diffyg profion sydd ar gael.
"Rwy'n meddwl ei bod yn cwestiynu o ddifrif a ddylid parhau, a fyddai'n drueni mawr oherwydd nid oes gennym ddigon o hyfforddwyr, heb sôn am hyfforddwyr benywaidd yn y diwydiant."
'Nid yw'r cynllun yn gweithio'
Mae pryderon hefyd nad yw safonau hyfforddwyr yn gallu cael eu gwirio bob pedair blynedd.
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Lloegr, Heidi Alexander wedi gofyn i'r DVSA ddwysau ymdrechion i leihau amseroedd aros a gwella mynediad at brofion gyrru.
Bydd hynny'n cynnwys dyblu capasiti hyfforddi arholwyr erbyn haf 2026 i sicrhau y gall arholwyr gyrru sydd newydd eu recriwtio gymhwyso "cyn gynted â phosibl".
Mae Lynne Barrie, llywydd y Cydgyngor Cenedlaethol Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy, yn amheus o'r cynlluniau newydd.
"Nid yw'r cynllun saith pwynt, y dechreuon nhw ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2024, yn gweithio," meddai.
"Roedd tua 25% ohono yn ymwneud ag ymgynghoriadau ond nid yw hynny'n cael ei weithredu, a thra ein bod yn cael arholwyr newydd i mewn, mae nifer fawr yn gadael y proffesiwn hefyd."
Ychwanegodd: "Gallwn gael cymaint o arholwyr gyrru a phrofion ag y dymunwn ond hyd nes y byddwn yn atal pobl rhag gwerthu eu cyfnodau prawf am symiau twyllodrus o arian yna bydd y sefyllfa'n parhau i fod yn heriol."