Merch, 1, wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar faes gwersylla ger Caernarfon

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar safle Bryn Gloch fore Llun

Mae merch un oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar safle gwersylla ger Caernarfon.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yng ngwersyll Bryn Gloch ym Metws Garmon tua 10:20 ddydd Llun, yn dilyn adroddiadau fod plentyn ifanc wedi cael ei tharo gan gerbyd.

Fe gafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gan yr Ambiwlans Awyr, ond bu farw o'i hanafiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod eisoes yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad a bod y crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.

"Rydyn ni'n cydymdeimlo'n arw gyda theulu'r ferch yn ystod y cyfnod anodd yma, a bydd swyddogion arbenigol yn eu cefnogi," meddai'r llefarydd.

'Digwyddiad trasig'

Mewn datganiad, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr gwersyll Bryn Gloch, Mark Roberts, eu bod "yn drist iawn yn sgil y digwyddiad trasig".

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'r teulu a phawb gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy hwn," meddai.

"Mae diogelwch a lles ein gwesteion o'r pwys mwyaf i ni, a byddwn yn rhoi ein cydweithrediad llawn i'r awdurdodau sy'n ymwneud â'r ymchwiliad i'r mater hwn."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y cynghorydd Edgar Wyn Owen fod y digwyddiad yn "drist iawn"

Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, sy'n cynrychioli ward Waunfawr, Rhyd Ddu a Betws Garmon ar Gyngor Gwynedd, fod y digwyddiad yn "drist ofnadwy."

"Wrth gwrs da' ni'n cydymdeimlo hefo'i theulu hi, does 'na neb yn disgwyl i'w plentyn nhw fynd o'u blaen nhw nagoes," meddai.

Ychwanegodd Mr Owen fod oedran y ferch yn gwneud y cyfan yn "drasiedi".

"Mae'n dawel iawn yma, prysurach yn yr haf wrth gwrs, ond ma' Betws Garmon wedi bod yn ddidrafferth ers blynyddoedd."