Cerddi Myrddin ap Dafydd
Gorffen-haf
Mae'r mwyar yn y cloddiau
Mae'r ffawydd yn llawn cnau
Ddraenogod bach y bora:
Ewch yn ôl i'ch gwlâu
Porthau Llŷn
Porth Ychen, Porth Llanllawen,
Porth Ceiriad, Porth Cae Coch,
Porth Sglodion a Phorth Sgadan,
Porth Gwymon, Porth y Gloch,
Porth Meudwy, Porth Siôn Richard,
Porth Felen, Porth Bryn Gwŷdd,
Porth Geirch, Porth Golmon, Porth y Nant,
Porth Gŵr, Porth Penrhyn Crydd.
Porth Brwyn, Porth Ysgyfarnog,
Porth Fadog a Phorth Fach,
Porth Ferin a Phorth Foriog,
Porth Alm, Porth Trefgraig Bach,
Porth Gyfyng a Phorth Lydan,
Porth Rhos y Go, Porth Fawr,
Porth Newydd, Porthor, Porth Tŷ Llwyd,
Porth Iwrch a Phorth Tŷ Mawr.
Porth Cychod a Phorth Caseg,
Porth Solfach, Porth y Wrach,
Porth Llwynog, Porth y Pistyll,
Porth Glas, Porth Mari Bach,
Porth Iago, Porth Hendrefor,
Porth Llong, Porth Dunahoo,
Porth Carreg Wastad, Porth Dinllaen,
Porth Ddofn, a dyna nhw.