Main content

Asyn Llanarthne

Cyhoeddodd Owain Wyn Evans yn ei newyddion i deithwyr bod traffig yn araf yn Llanarthne oherwydd bod asyn ar yr heol…

Refio’n wyllt wnâi’r ceir fan hyn: yn y ciw

roedd ceos a dychryn

nes aeth ar eu siwrne syn

boy racers hebio’r asyn!

(8.30 am, 1.10.14)