Super Movers i bawb: Beth yw Para-athletau?

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)

Mae Martin Dougan yn ein cyflwyno i Baralympiaid enwog sy’n rhannu eu profiadau o gymryd rhan mewn chwaraeon Paralympaidd.

Cafodd y Gemau Paralympaidd cyntaf eu cynnal yn Rhufain yn 1960. Roedd 23 gwlad a 400 o athletwyr cadeiriau olwyn yn rhan o'r gemau.

Yn 1976, yn y Gemau Paralympaidd yn Toronto, roedd athletwyr nad oedd mewn cadeiriau olwyn yn cael cymryd rhan am y tro cyntaf, felly roedd athletwyr â nam ar eu golwg a’r rheini a oedd wedi colli coes neu fraich yn gallu cystadlu.

Erbyn hyn, mae pobl yn cymryd rhan mewn Para-athletau mewn dros 130 o wledydd ledled y byd, ac mae’n cynnwys digwyddiadau trac a maes fel rasio cadeiriau olwyn, rhedeg, marathon, naid hir, naid driphlyg, naid uchel, gwaywffon, disgws, taflu clwb a thaflu pwysau.

Yn y ffilm hon, rydyn ni’n cwrdd ag athletwyr sy’n rhannu eu straeon ysbrydoledig a’u hangerdd dros eu camp:

  • Hollie Arnold MBE, pencampwr y byd – gwaywffon
  • Thomas Young MBE, enillydd medal aur – rhedeg 100m
  • Funmi Oduwaiye – taflu pwysau

Maent i gyd wedi dangos, fel dywedodd y pencampwr Usain Bolt yn ei neges ysgogol i Thomas Young, bod:
“unrhyw beth yn bosib. Paid â meddwl am dy derfynau.”