(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)
Mae Shini Muthukrishnan yn ymuno â Julie Pearson, sy’n Hyfforddwr Athletau, wrth iddi fynd drwy rai o’r sgiliau sydd eu hangen mewn Para-athletau.
Sgiliau
Dyma’r sgiliau gafodd eu dysgu yn y gweithgareddau:
Rhedeg gyda Thywysydd
Amseru: Dysgu cadw amser, ac yna dysgu cadw amser gyda’u partner ac yn gyflym.
Cydweithio ac ymddiried: mewn parau, mae un disgybl yn tywys y llall.
Taflu Pwysau
Dysgu sut mae gwthio (ac nid taflu) bag ffa.
Dysgu sut mae taflu’n gywir ac ychwanegu pellter.
Dysgu sut mae cynyddu pa mor bell maen nhw’n gallu taflu drwy ddefnyddio’r ystum cywir.
Gwaywffon
Mae’r disgyblion yn dysgu’r dechneg taflu sylfaenol ac yn gweithio ar eu cywirdeb a’u pellter.
Gweithgareddau
Rhedeg gyda Thywysydd
Clapio mewn Amser
Mae’r plant yn ymarfer cerdded gyda’i gilydd ar yr un pryd â phartner.
Y Tîm Perffaith
Mewn parau, mae un plentyn yn tywys ac mae’r ail blentyn yn rhoi ei law ar fraich neu ysgwydd ei bartner ac yn cau ei lygaid wrth i’r tywysydd ei arwain o gwmpas yr ystafell, ac yna’n troi ac yn cerdded yn ôl.
Taflu Pwysau
Dros y Llinell
Mae Julie yn dangos sut i daflu pwysau gyda gwthiad.
Gwaywffon
Mae Julie yn dangos sut mae taflu’r waywffon yn wahanol i’r pwysau. Ar gyfer taflu pwysau, mae angen i chi wthio i daflu’r pwysau, ond er mwyn taflu gwaywffon, mae angen siglo’n ôl a gwthio.
Taflu Roced
Yn y gweithgaredd hwn, mae’r plant yn taflu rocedi sbwng yn hytrach na gwaywffyn, gan ddefnyddio’r dechneg y mae Julie yn ei dangos. Mae’r plant yn anelu eu rocedi at fyd o blanedau o gylchoedd. Yna, i wneud y gweithgaredd yn anoddach, maen nhw’n anelu at grŵp arall o blanedau y tu hwnt i fyd y planedau – at gylchoedd llai.
Cardiau gweithgaredd
Cerdyn gweithgaredd: rhedeg gyda thywysydd 5-7. document
Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer rhedeg gyda thywysydd 5-7

Cerdyn gweithgaredd: gwaywffon 5-7. document
Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer gwaywffon 5-7

Cerdyn gweithgaredd: taflu pwysau 5-7. document
Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer taflu pwysau 5-7
