Gweithgareddau cerddorol i blant: Ffyrdd rhwydd o gael profiadau cerddorol yn y cartref gyda phlant ifanc

Efallai nad ydych chi’n ymwybodol o'r ffaith eto, ond mae’ch cartref yn llawn anturiaethau cerddorol cyffrous ar gyfer eich plentyn.

Does dim angen offerynnau arnoch chi, a does dim angen i chi allu canu mewn tiwn hyd yn oed, yn ôl Ray Travasso, Therapydd Cerdd. “Byddwch chi’n aml yn clywed pobl yn dweud ‘Dw i ddim yn gerddorol, dw i ddim yn gallu canu’. Mae hynny’n amherthnasol mewn gwirionedd. Mae pawb yn ymateb i gerddoriaeth. Ac mae llawer o ffyrdd gwahanol i chi fwynhau profiadau cerddorol yn eich cartref.”

Gwneud sŵn gyda gwrthrychau yn y cartref

Does dim ots beth yw’r gwrthrych, os yw’n gwneud sŵn, mae’n offeryn yn ôl Ray. “Does dim i guro sesiwn ddrymio gyda sosban a llyw bren, a gall y teulu cyfan gymryd rhan – mae’n siŵr bod yr holl sêr mawr ym myd cerddoriaeth hefyd wedi dechrau drwy ddrymio sosbenni.”

“A gallwch ddefnyddio dŵr i wneud sŵn, a chwarae gyda rhythmau hefyd,” yn ôl Alys Mathers, Therapydd Arbenigol Lleferydd ac Iaith. “Llenwch wahanol gynwysyddion a thywallt dŵr i mewn ac allan ohonyn nhw, neu chwythu ar draws top y cynhwysydd.”

Merch fach yn chwarae potiau a sosbenni fel drymiau gyda'i brawd hŷn.
Image caption,
Does dim ots beth yw’r gwrthrych, os yw’n gwneud sŵn, mae’n offeryn o safbwynt eich plentyn.

Gwrando a dawnsio i’ch hoff ganeuon

“Bydd chwarae cerddoriaeth yn uchel ar y radio neu ar eich ffôn yn gwneud i chi ddawnsio a chanu, felly mae’n weithgaredd braf sy’n hawdd ei wneud, ac mae hefyd yn ffordd wych o wneud ymarfer corff,” medd Ray. Bydd gemau fel bymps cerddorol neu gerfluniau cerddorol hefyd yn helpu sgiliau cydsymud a gwrando’ch plentyn.

Gallwch hyd yn oed chwarae cerddoriaeth a chanu i fabi yn y groth, gan fod babis yn dechrau clywed synau o’r byd y tu allan ar ôl tua 15 wythnos.

Canu hwiangerddi – a gwneud y symudiadau hefyd

Mae plant ifanc wrth eu bodd â hwiangerddi – mae’r ailadrodd yn wych ar gyfer dysgu iaith, ac mae’r symudiadau’n helpu i ddatblygu eu sgiliau corfforol hefyd. Ewch ati i chwarae gyda geiriau a symudiadau er mwyn gwneud i’ch plentyn chwerthin.

Bachgen ifanc yn canu cân gyda'i dad.
Image caption,
Ewch ati i chwarae gyda geiriau caneuon a symudiadau er mwyn gwneud i’ch plentyn chwerthin.

Creu eich offerynnau eich hun

Nid yn unig bydd gennych chi declyn gwych i wneud sŵn, ond mae'r broses greadigol o greu offeryn gyda’ch gilydd hefyd yn gallu tanio dychymyg eich plentyn. Rhowch gynnig ar wneud tambŵrin, banjo, ffon law a mwy gyda chymorth Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Annie Price a'i mab Sonny yn chwarae gyda gitâr cardbord.
Image caption,
Mae creu eich offerynnau eich hun yn broses greadigol a hwyliog hefyd.

Creu cerddoriaeth ar gyfer tasgau bob dydd

Do, rydych chi wedi darllen hynny’n iawn - wrth gyflwyno cerddoriaeth i dasgau bob dydd, mae hyn yn gyfle i greu perthynas agosach gyda'ch plentyn. Ceisiwch greu’ch caneuon a’ch rhigymau eich hun i wneud tasgau arferol yn fwy o hwyl, ac i wneud yn fawr o’ch amser un-i-un. Mae amser bwydo, newid cewyn ac amser gwely i gyd yn adegau gwych i ganu.

A mum singing to her baby while doing the dishes.
Image caption,
Gall hyd yn oed tasgau bob dydd fel golchi llestri fod yn gyfle i ganu.

Defnyddio synau bob dydd

Gallwch ddatblygu sgiliau gwrando a chanolbwyntio'ch plentyn drwy siarad am synau yn y cartref neu yn yr awyr agored. Ceisiwch weld beth sy’n mynd â sylw’ch plentyn, a cheisiwch ddefnyddio'ch sgiliau llais (oes, mae gennych chi rai!) a gwrthrychau o gwmpas y tŷ i wneud yr un sŵn.

Sut i wneud yn fawr o’ch sesiynau jamio yn y cartref

  • Eistedd wyneb yn wyneb

“Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael llawer o gyswllt llygad pan fyddwch chi’n canu neu’n creu cerddoriaeth, ac mae’n syniad da plygu i lawr at lefel llygaid eich plentyn,” medd Alys.

  • Dilyn arweiniad eich plentyn

“Os ydy’ch plentyn yn taro drwm dair gwaith, dylech chi daro drwm dair gwaith. Os bydd eisiau gwagio cynhwysydd o ddŵr a dweud ‘sblash’, gwnewch chi'r un peth – a’i droi’n gân sblash. Os bydd eisiau taro’r gitâr cardbord yn hytrach na thincian y llinynnau, dilynwch ei arweiniad a gwneud yr un fath,” medd Alys. “Po fwyaf y gallwch chi adlewyrchu a chopïo’ch plentyn, y mwyaf o fudd gaiff eich plentyn o’r gweithgaredd oherwydd ei fod yn gallu cymryd rhan, a bydd wir yn gwrando ac yn canolbwyntio.”

  • Ceisio dangos sillafau

“Mae hyn yn golygu treulio amser yn diffinio pob sillaf mewn gair, fel ym-ba-rél,” medd Alys. “Mae defnyddio gwrthrych cerddorol i gyfleu sillafau geiriau yn gallu helpu'ch plentyn i gynyddu ei eirfa, gan fod hyn yn ei helpu i glywed y synau yn y geiriau.”

  • Cynnwys y teulu cyfan

Mae morio canu neu jamio offerynnau gyda’ch gilydd yn weithgareddau gwych i bawb yn y cartref – a dros alwadau fideo – a gallant dynnu’r pwysau oddi arnoch chi i fod yn brif ddiddanwr.

  • Arafu pethau

“Arafwch y caneuon a’r rhigymau er mwyn i’ch plentyn gael mwy o amser i’w prosesu ac i ymuno,” medd Alys. “Mae hyn yn llawer mwy o hwyl i’ch plentyn na dim ond gwylio a gwrando.”

  • Cymryd tro

Mae canu penillion bob yn ail neu newid pwy sydd ag offeryn yn wych i helpu’ch plentyn i ddysgu iaith. “Mae hyn yn golygu bod elfen o gymryd tro, yn union fel sgyrsiau llafar, a gallwch ymestyn cyfnod canolbwyntio’ch plentyn drwy sicrhau bod y cyfnod cymryd tro yn para ychydig mwy bob tro,” medd Alys.

  • Annog eich plentyn

Mae canmol ymdrechion eich plentyn yn wych i’w hyder – felly daliwch ati i annog ei ddawn gerddorol.

Ble nesaf?