
Mae babis yn aml yn dechrau dweud eu geiriau go iawn cyntaf pan fyddan nhw rhwng 12 a 18 mis. Efallai byddan nhw’n parablu ymhell cyn hyn, ac os byddwch chi’n ymateb i hyn yn rheolaidd, byddwch chi’n helpu i droi’r synau hynny yn eiriau.
Mae’n bwysig cofio bod pob plentyn yn wahanol ac yn datblygu sgiliau yn ei amser ei hun.
Cyn i'ch plentyn ddechrau siarad, cadwch lygad am ‘sgiliau cyn siarad’ fel cyswllt llygad, rhannu sylw a chymryd tro, sy’n ymddangos ymhell cyn geiriau neu frawddegau.

Cyfathrebu cyn gallu siarad
Cyn gallu ffurfio geiriau, mae’ch babi’n ceisio cyfathrebu â chi drwy ymateb i synau, cymryd tro ac edrych o'i gwmpas am bobl mae’n gallu rhyngweithio â nhw.
Mae hyn yn dechrau’n gynnar iawn – hyd yn oed cyn i fabi gael ei eni, mae’n bosibl bydd yn clywed synau yn y groth, ac yn symud wrth glywed lleisiau cyfarwydd.
Cadwch lygad am arwyddion cynnar bod eich babi’n ceisio cyfathrebu â chi – ydy’ch babi’n edrych arnoch chi pan fyddwch chi’n siarad? Yn gwenu’n ôl pan fyddwch chi’n gwenu neu’n siarad?
Ar ôl ychydig o fisoedd, ydy’ch babi’n gwneud synau nad ydyn nhw’n eiriau, ond sy’n ymddangos bod ystyr iddyn nhw? Erbyn y bydd yn 12 mis, ydy’ch babi’n pwyntio at bethau sy’n mynd â’i ddiddordeb?
Mae’r rhain i gyd yn arwyddion cadarnhaol bod eich babi eisiau cyfathrebu.

Dechrau defnyddio geiriau
Ar ôl y cyfnod ‘cyn siarad’, mae plant yn datblygu eu sgiliau gwrando a thalu sylw, yn dechrau deall geiriau, ac yn dechrau eu defnyddio eu hunain yn y pen draw.
Ceisiwch ddod i’r arfer o siarad â'ch plentyn drwy'r amser, o'i enedigaeth, gan ddefnyddio iaith y gall ddysgu ohoni.
Unwaith bydd plant yn gallu defnyddio ychydig o eiriau, maen nhw’n cynyddu eu geirfa’n gyflym. Pan fyddant yn gallu dweud tua 50-100 gair, dylen nhw ddechrau gwneud brawddegau byr.
Pan fydd eich plentyn yn dechrau siarad, efallai byddwch chi’n gweld bod ei eiriau'n aneglur – mae hyn yn arferol gyda geiriau cynnar, gan mai siarad yn glir yw un o'r sgiliau cyfathrebu sy’n datblygu olaf.

Pryd mae babis yn gwenu? Rhai datblygiadau i gadw llygad amdanynt
Ydych chi’n poeni am iaith eich plentyn? Peidiwch â phoeni gormod wrth gymharu'ch plentyn chi â phlant eraill. Efallai bydd rhai plant yn gwneud pethau corfforol yn gynt, fel cropian, tra bo eraill yn sgwrsio’n ddi-baid o ddyddiau cynnar iawn.
Fodd bynnag, mae rhai cerrig milltir allweddol cydnabyddedig o ran cyfathrebu y mae plant yn arfer eu dilyn.
Sgìl | Oedran |
---|---|
Gwenu | 6 - 8 wythnos |
Copïo synau fel chwythu a chrynu gwefusau | 7 - 9 mis |
Parablu (gwneud cyfres o synau) | 9 mis |
Codi llaw i ffarwelio, ac ysgwyd eu pen i ddangos 'na' | 9 - 12 mis |
Deall ychydig o eiriau syml, ee ‘car’ | 12 - 15 mis |
Pwyntio at bethau maen nhw eu heisiau | 12 - 18 mis |
Dweud rhai geiriau mae modd eu hadnabod, ee ‘mam’ / ‘haia’ | 12 - 18 mis |
Rhoi grŵp o eiriau syml at ei gilydd, ee ‘wedi gorffen’; ‘mwy o ddiod’ | 18 - 24 mis |
Dechrau gwneud brawddegau syml sy’n cynnwys 3 gair neu fwy | 26 - 30 mis |
Gofyn am gael clywed stori eto | 31 - 36 mis |
Gofyn ‘pam?’ a ‘sut?’ | 3 - 4 blwydd |
Pam mae apwyntiadau ymwelwyr iechyd yn bwysig
Byddwch chi’n cael cynnig apwyntiadau gydag ymwelydd iechyd ar gyfer eich babi nes bydd tua dwy oed, ac weithiau am gyfnod hirach. Bydd hyn yn ffordd o gadw golwg ar lawer o agweddau ar iechyd a datblygiad eich babi, gan gynnwys ei sgiliau iaith a chyfathrebu. Mae’r apwyntiadau yma’n bwysig iawn, yn enwedig gan eu bod yn gyfle da i rannu unrhyw bryderon neu ofidiau.
Mae'r apwyntiadau yma’n amrywio yn ôl ble'r ydych chi’n byw, ond byddan nhw’n cynnwys aelod o'r tîm ymweliadau iechyd yn siarad â chi am bob agwedd ar ddatblygiad eich plentyn yn eich cartref, mewn clinig neu mewn canolfan blant. Efallai byddan nhw'n mynd drwy holiadur 'oedran a chamau' sy'n gofyn cwestiynau am ddatblygiad eich plentyn.
Peidiwch â bod ofn gofyn am gyngor
Mae’n bwysig rhoi atebion gonest er mwyn i chi gael y cymorth iawn os oes angen hynny ar eich plentyn. Os ydych chi’n ansicr am unrhyw gwestiynau, dywedwch hynny, a gall y gweithiwr iechyd proffesiynol egluro.
Chi sy'n adnabod eich plentyn orau, felly os oes gennych chi unrhyw bryderon peidiwch ag aros tan yr apwyntiad iechyd: ffoniwch eich tîm ymweliadau iechyd, siaradwch â'ch meddyg teulu neu gofynnwch i'ch gweithiwr meithrinfa am gyngor.

