Hunaniaeth lle

Part of DyniaethauDaearyddiaeth

Beth yw hunaniaeth lle?

Mae lle ry’n ni’n byw yn gallu cael effaith fawr ar ein . Rydyn ni'n cael ein siapio gan nifer o bethau gan gynnwys diwylliant, hanes, iaith a chwaraeon.

Mae hunaniaeth lleoedd hefyd yn cael ei siapio gan y bobl sy'n byw yno.

Gwlad fach yw Cymru ond mae wedi cynhyrchu llawer o sêr. Mae'r pêl-droedwyr Jess Fishlock a Gareth Bale, cantorion Y Fonesig Shirley Bassey a Cerys Matthews, athletwyr Y Farwnes Tanni Grey-Thompson a Colin Jackson, a'r actorion Michael Sheen ac Eve Myles yn enwog ledled y byd yn eu meysydd.

Am le mor fach, mae Cymru yn aml yn cael ei chysylltu gyda rhai o ffigurau mwyaf talentog a phoblogaidd y byd.

Fideo - Hunaniaeth lle

Tiger Bay

Roedd Tiger Bay yn gymuned a dyfodd o amgylch y dociau yng Nghaerdydd pan oedd yn un o'r porthladdoedd glo mwyaf prysur yn y byd.

Roedd yn lle amrywiol iawn - roedd y bobl a oedd yn byw yno yn dod o ddegau o wahanol wledydd.

Daeth morwyr o Somalia yno ar longau yn chwilio am waith, ac fe wnaethon nhw aros yn yr ardal, gan briodi merched lleol a gwneud eu cartref yng Nghaerdydd. Daeth pobl o'r Caribî, y Penrhyn Arabaidd, Gorllewin Affrica ac o dros Ewrop gyfan i wneud Tiger Bay yn rhan unigryw o'r ddinas.

Roedd yn enwog am fod yn ardal lle'r oedd pobl o wahanol gefndiroedd, gwledydd a chrefyddau i gyd yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr.

Daeth allforio glo o'r dociau i ben yn y pen draw. Yn araf, diflannodd y Tiger Bay a oedd yn gymuned mor fywiog a llawn bwrlwm.

Ym 1999, agorodd morglawdd Caerdydd a chafodd yr hen ddociau eu troi mewn i lyn mawr. Tyfodd cymuned newydd, fodern o'i gwmpas o'r enw Bae Caerdydd. Mae'n llawn fflatiau newydd, bariau, bwytai a hyd yn oed adeiladau'r llywodraeth.

Erbyn hyn mae pobl yn defnyddio’r Bae fel ardal hamdden - rhywle i fynd i fwynhau ac ymlacio. Ond i rai, bydd bob amser yn cael ei gofio fel cartref cymuned unigryw o bobl o bob cwr o'r byd.

Darlun o Tiger Bay.
Map yn dangos lleoliad Tiger Bay.
Darlun o Fae Caerdydd.

Gall hunaniaeth lle hefyd gael ei effeithio gan bethau sy'n digwydd, rhai ohonyn nhw’n anffodus.

Mae hunaniaeth pentref Aberfan, ger Merthyr Tudful wedi cael ei siapio gan drychineb a ddigwyddodd yn 1966. Ar fore 21 Hydref, llithrodd gwastraff glo oedd uwchben y pentref i lawr bryn serth a bwrw rhan ohono.

Fe darodd Ysgol Pantglas a nifer o dai ac fe laddwyd 144 o bobl.

Heddiw yn Aberfan, mae gardd goffa ar hen safle Ysgol Pantglas yn atgoffa'r gymuned o'u colled, rhywbeth na fyddan nhw fyth yn ei anghofio.

Pontydd Ynys Môn

Gall tirnodau - sef pethau diddorol yn yr ardal - hefyd helpu i ffurfio hunaniaeth lle. Mae dwy bont enwog yn cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr. Maen nhw wedi bod yn nodwedd o'r ardal ers iddyn nhw gael eu hadeiladu yn yr 19eg ganrif.

Agorodd Pont Menai, a gafodd ei chynllunio gan Thomas Telford, yn 1826. Ar y pryd hi oedd y bont grog hiraf yn y byd.

Cafodd Pont Britannia ei chynllunio a’i hadeiladu gan Robert Stephenson. Roedd gan y bont ddau drac trên, a phan agorodd yn 1850 cafodd Ynys Môn ei chysylltu â'r rhwydwaith reilffordd am y tro cyntaf.

Pwrpas y ddwy bont oedd ei gwneud hi’n haws i bobl deithio o’r Iwerddon i Lundain. Y dyddiau hyn maen nhw'n cael eu defnyddio gan filoedd o bobl leol a thwristiaid bob dydd, ac maen nhw'n rhan o hanes cyfoethog yr ynys.

Gweithgareddau

1. Tasg ysgrifenedig

'Mae’r ardal ble rwy’n byw yn le arbennig…’

Ysgrifenna am yr ardal ble rwyt ti’n byw, ac esbonia pam ei bod yn bwysig i ti a dy gymuned. Dylet ti ddechrau’r dasg gyda’r frawddeg 'Mae’r ardal ble rwy’n byw yn le arbennig…’

Dyma rhai pethau dylet ti gynnwys yn dy waith.

  • Disgrifiad o’r ardal - Ydy hi’n ddinas brysur, neu’n bentref tawel, oes afonydd neu fynyddoedd yn yr ardal, neu oes llawer o adeiladau?
  • Tirnodau enwog - Ysgrifenna am unrhyw atyniadau arbennig sydd yn dy ardal di.
  • Wyt ti ymfalchïo yn dy ardal? - Eglura pam dy fod yn falch o'r ardal.
  • Beth sy'n unigryw neu'n arbennig am dy gymuned?
  • Beth sydd wedi digwydd yn dy gymuned?

2. Creu pamffled

Cer ati i greu pamffled yn hysbysebu dy gymuned leol fel ardal y dylai pobl eraill ymweld â hi. Ychwanega ffotograffau neu tynna luniau dy hun o unrhyw dirnodau enwog yn yr ardal. Gwna’n siŵr fod dy waith yn cael ei gyflwyno mewn dull trefnus a chreadigol.

Dylai dy bamffled gynnwys:

  • teitl bachog - dylai hwn gynnwys enw lle rwyt ti’n byw, ond gydag ansoddair cadarnhaol i'w wneud hyd yn oed yn fwy deniadol, er enghraifft ‘Aberystwyth Anhygoel’.
  • ffeithiau a gwybodaeth - cyflwyna ffeithiau diddorol am dy gymuned fel pethau i'w gwneud yn yr ardal, y boblogaeth neu hyd yn oed lwyddiant y tîm pêl-droed lleol.

3. Cwis: Hunaniaeth lle

More on Daearyddiaeth

Find out more by working through a topic