Dedfrydu merch, 14, am geisio llofruddio tri yn Ysgol Dyffryn Aman
- Awdur, Sara Dafydd
- Swydd, BBC Cymru
- Yn gohebu o Llys y Goron Abertawe
Mae merch 14 oed wedi cael dedfryd 15 mlynedd am drywanu tri pherson mewn ysgol yn Sir Gâr.
Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu yn ystod amser egwyl yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman ar 24 Ebrill 2024.
Roedd y ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi ei chanfod yn euog o dri chyhuddiad o geisio llofruddio fis Chwefror.
Fe fydd yn treulio hanner y ddedfryd, saith mlynedd a hanner, dan glo.
Ni wnaeth y ferch ymateb, a dywedodd y Barnwr Paul Thomas nad oedd wedi dangos edifeirwch am yr hyn a wnaeth.
'Dwi'n mynd i dy ladd di'
Ym mis Chwefror, clywodd y llys bod y ferch wedi dweud "Dwi'n mynd i dy ****** ladd di" cyn trywanu Fiona Elias, ac fe drywanodd Liz Hopkin yn ei gwddf wrth i hithau geisio ei rhwystro.
Fe ddefnyddiodd y ferch eiriau tebyg wrth redeg wedyn at gyd-ddisgybl, wrth i athrawon geisio'i hatal.
Clywodd y llys bod y ferch wedi dangos cyllell i'w ffrindiau y bore hwnnw gan ddweud ei bod "yn mynd i wneud rhywbeth fyddai'n arwain at gael fy niarddel" a'i bod "yn mynd i drywanu Ms Elias".
Daeth yr heddlu o hyd i ddarluniau gan y diffynnydd oedd yn cyfeirio at y disgybl a gafodd ei thrywanu, a "Mrs Frogface Elias".
Dywedodd y ddwy athrawes yn eu cyfweliadau i'r heddlu eu bod yn credu y byddan nhw'n marw wrth gael eu trywanu.
Yn ei thystiolaeth hithau i'r llys fis Chwefror, dywedodd y diffynnydd ei bod wedi cario cyllell i'r ysgol "yn ddyddiol" ers yr ysgol gynradd, a'i bod wedi gwneud hynny "o reddf" am ei bod wedi cael ei bwlio.
Yn ei datganiad dywedodd Fiona Elias, oedd yn ddagreuol yn y llys, na allai "fyth yn anghofio'r foment" y gwelodd hi'r gyllell.
"Mae'r foment yn dod ataf yn aml, yn enwedig pan fyddaf ar fy mhen fy hun - mae'n eiliad sy'n ail-chwarae ei hun drosodd a throsodd."
Dywedodd wrth y llys ei bod yn meddwl bod "fy amser wedi dod", ond bod ei hofn wedi ei "wthio o'r neilltu" gan deimlad o fod eisiau amddiffyn plant eraill.
"Mae'r creithiau ar fy mreichiau yn atgof dyddiol o'r boen wnes i ddioddef, y trais a wynebais. Rwy'n eu gweld bob dydd heb ddianc rhagddynt."
Wrth gyfeirio at y diffynnydd, oedd yn eistedd yn ddi-emosiwn tu allan i'r doc, dywedodd: "Rwyt ti wedi fy rhoi i, fy nheulu a'r ysgol gyfan trwy uffern.
"Mae dy enw a dy wyneb di wedi'u gwneud yn anhysbys, ond ni chaiff fy enw a'm stori eu hanghofio, byddaf bob amser yn cael fy adnabod fel yr athrawes a gafodd ei thrywanu."
Dywedodd Ms Elias bod ganddi "deimladau cymysg" am y diffynnydd, ac nad oedd hi'n "gallu stopio meddwl" amdani.
"Fel rhiant wnes i feddwl am dy deulu, a sut mae'n rhaid eu bod yn teimlo. Waeth beth rwyt ti wedi'i wneud, dim ond 13 oed oeddet ti, yn blentyn."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio bod y ferch yn "gwella a thyfu" o'r digwyddiad.
Wrth ddarllen ei datganiad edrychodd Liz Hopkin ar y diffynnydd gan ddweud ei bod yn "falch" o allu achub bywyd ei chydweithiwr, Fiona Elias.
"Rwy'n falch mai fi oedd yno y diwrnod hwnnw, rwy'n ddiolchgar nad oedd yn aelod o staff mwy bregus.
"Dwyt ti ddim yn llofrudd, achos wnes i dy ddal di yn ôl a sefyll yn dy ffordd."
Cyfeiriodd at y ferch 14 oed: "Dydw i ddim yn esgus dy nabod na' dy ddeall di, ond rwyt ti wedi bod gyda mi bob dydd.
"Rwy'n poeni am dy ddyfodol. Nid wyf am i ddigwyddiadau'r diwrnod hwnnw fod yr hyn sy'n dy ddiffinio. Rwy'n gobeithio y byddi di'n dewis byw yn wahanol."
'Mwynhau'r cyhoeddusrwydd'
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC, bod y ferch "wedi peri loes i nifer fawr o bobl, gan gynnwys ti dy hun".
"Nes i drio lladd tri pherson, es di i'r ysgol yn cynllunio i wneud hynny i Mrs Elias - roeddet ti'n ei chasáu hi."
Dywedodd y barnwr nad oedd yn "gyd-ddigwyddiad" ei bod wedi trywanu'r tri o flaen nifer o gyd-ddisgyblion.
Soniodd am sut roedd y ferch wedi dweud wrth yr heddlu y byddai'r digwyddiad yn ei gwneud hi'n enwog: "Dwi'n meddwl mewn ffordd ryfedd dy fod wedi mwynhau'r ymateb a'r cyhoeddusrwydd.
"Dwi ddim yn meddwl dy fod yn flin am beth wnes di."
Dywedodd y barnwr ei bod "eisoes wedi gwneud bygythiadau" tra yn y ddalfa: "Dwi'n meddwl dy fod yn risg hyd yn oed ar ôl i ti adael y ddalfa.
"Mae i gyd yn ddibynnol ar faint wyt ti'n aeddfedu dros y blynyddoedd nesaf."
Roedd y ferch yn ddi-emosiwn wrth glywed ei dedfryd, a'r oriel gyhoeddus yn ddistaw.
Dywedodd y barnwr y bydd hi bron yn 30 oed ar ddiwedd y ddedfryd.
"Rwy'n gobeithio y byddi di'n byw bywyd da," ychwanegodd.
Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Mae'r achos wedi codi cwestiynau difrifol ynglŷn â diogelwch o fewn ysgolion Cymru, gyda nifer nawr yn galw am adolygiad mewn i ba mor ddiogel mae ysgolion.
Fe wnaeth yr achos effeithio'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, Cefin Campbell, mewn sawl ffordd.
Roedd ei frawd, Darrell Campbell, yn un o'r athrawon wnaeth rwystro'r ferch.
"Mewn achosion llys o bob math, yn aml mae'r diffyg yn deillio o bod gwybodaeth bwysig ddim wedi cael ei rhannu rhwng asiantaethau," meddai.
"Yn yr achos yma mae angen i'r adolygiad, gobeithio fydd yn digwydd, i edrych ar pa wybodaeth cafodd ei rannu rhwng gwasanaethau cymdeithasol a'r awdurdod addysg."
Ychwanegodd: "Hefyd rhwng ysgolion â'i gilydd, gan bod y ferch wedi symud o un ysgol i'r llall a beth oedd y lefel o berygl o wybodaeth y gwasanaethau cymdeithasol."
Mae Cyngor Sir Gâr wedi dweud eu bod wedi cyfeirio'r digwyddiad ar y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a'u bod yn aros am eu penderfyniad ynghylch adolygiad aml-asiantaeth.
Fe fydd uwch-gynhadledd ynghylch diogelwch mewn ysgolion yn cael ei chynnal ym mis Mai, yn ôl Llywodraeth Cymru, gobeithio mai nid "siop siarad" fydd hi mae Cefin Campbell.
"Mae'n rhaid bod cynigion a phwyntiau gweithredu cwbl benodol fel bod athrawon a disgyblion yn teimlo'u bod nhw'n cael eu gwarchod."
Yn ôl Huw Rogers, Dirprwy Brif Erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron, roedd yr achos yn un "anarferol" oherwydd oed ifanc y diffynnydd.
"Roedd ei hoed yn rhywbeth roedd rhaid i'r llys ystyried wrth asesu os oedd hi wir yn bwriadu eu lladd," meddai.