Y Cymro a ddaliodd erchylltra Rhyfel Fietnam ar gamera

Philip Jones GriffithsFfynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths | Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Philip Jones Griffiths

  • Cyhoeddwyd

Mae wythnos yma'n nodi 50 mlynedd ers diwedd Rhyfel Fietnam, pan adawodd byddin yr UDA wedi blynyddoedd o ymladd yn erbyn gyfundrefn Gomiwnyddol Gogledd Fietnam. Bu farw tua 2.5 miliwn o bobl Fietnam yn ystod y rhyfel, a 60,000 o filwyr Americanaidd.

Un o'r rhai oedd yn Fietnam yn dogfennu'r hyn a oedd yn ddigwydd oedd y ffotograffydd o Ruddlan, Philip Jones Griffiths. Mae gwaith Griffiths yn cael ei gydnabod yn rhan bwysig o'r broses a newidiodd agweddau cyhoedd yr Unol Daleithiau tuag at y rhyfel.

Yn siarad ar Dros Ginio ar 29 Ebrill, roedd y ffotograffydd Rhodri Ellis Jones yn nodi pwysigrwydd cyfraniad Philip Jones Griffiths.

"'Nes i glywed am Philip Jones Griffiths ar ôl i fi ddechrau tynnu lluniau. 'Nes i symud i Ganolbarth America, Nicaragua ac El Salvador, ar ddiwedd yr 1980au i weithio fel ffotograffydd yn ystod y rhyfeloedd yno."

fietnamFfynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths | Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Plentyn ifanc yn ffoi i ffwrdd o ymladd ffyrnig Brwydr Saigon, 1968

Pan oedd yn ffotograffydd ifanc ar ddechrau'r 90au fe gafodd gwaith Philip Jones Griffiths dipyn o effaith ar Rhodri.

"O'n i ond newydd ddechrau ond 'nes i gwrdd a lot o ffotograffwyr gyda mwy o brofiad na fi – 'nath nhw i gyd sôn am waith Philip Jones Griffiths. Ar y pryd doedd 'na ddim Google, felly pan ddes i nôl i Ewrop yn 1991 es i i'r llyfrgelloedd i chwilio am gwaith Philip Jones Griffiths a ffotograffwyr eraill.

"'Nes i gysylltu efo fo ar ddiwedd y 90au pan o'n i am gyhoeddi fy llyfr cyntaf, Made in China. O'n i isio gwybod os fysa fo'n gallu sgwennu rhagair i'r llyfr - 'nes i yrru lluniau o China iddo fo ac oedd o'n hapus, a cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 2002.

"Roedden ni'n siarad dros e-bost, a 'nes i ei gwrdd am y tro cyntaf yn iawn yn 2003 yn Llangollen, ble roedd gen i arddangosfa o'r gwaith Made in China ar gyfer yr Eisteddfod Rhyngwladol yno."

fietnamFfynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths | Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Gwraig yn edrych ar y dinistr wedi'r bomio yn Saigon, 1968

Yn ôl Rhodri roedd Philip yn ddyn a oedd yn annog yr ifanc yn eu gwaith, ond hefyd yn siŵr o'i weledigaeth ei hun.

"Roedd o'n ddyn annwyl iawn, oedd efo calon fawr. Ond o'dd o hefyd yn ddyn o'dd yn gallu bod reit sdret efo bobl os o'dd o ddim yn hoffi be o'dd rhywun yn ddweud – "dwi'n meddwl bo' hwn yn wirion" neu be' bynnag, he didn't suffer fools – dyn felly o'dd o.

"O'dd o'n meddwl bo'r gwaith 'nes i yn China'n gryf iawn, a dyna pam 'nath o sgwennu'r rhagair. Fysa fo ddim wedi gwneud hynny os oedd o ddim yn credu yn y gwaith.

"O'dd o'n helpu lot o ffotograffwyr ifanc, ond os doedd o ddim yn hoff o waith rhywun bydde fo ddim yn cymryd lot o ddiddordeb yno fo."

marinesFfynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths | Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Marines o'r Unol Daleithiau yn cario corff un o'u cyd-filwyr wedi iddo farw yn ystod y Tet Offensive yn Hue

"Nath Philip weithio yn Fietnam am ddegawdau," meddai Rhodri.

"Cafodd y llyfr gyntaf, Vietnam Inc ei gyhoeddi yn 1971, ac fe gafodd o effaith anferth. 'Nath TIME Magazine ddweud yn 1972 "this is the best work of photo reportage of war ever published," - mae hynna'n wir hyd heddiw.

"'Nath y New York Times yn 1971 ddweud "the closest we are ever going to come to a definitive photo journalistic essay on the war."

vietnamFfynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths | Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Y llun sydd ar glawr y llyfr o waith Philip, Vietnam Inc

"O'dd o'n ddyn oedd yn gwneud ei waith cartref cyn mynd i rwla," esboniai Rhodri.

"Roedd o'n darllen llwyth am hanes a'r dylanwad crefyddol y llefydd oedd o'n mynd. Do'dd o ddim yn photojournalist oedd yn jest troi i fyny – oedd o'n gwybod yn union beth o'dd o'n edrych amdano.

"Yn y llyfr Vietnam Inc, un o'r pethau cynta' 'di lluniau o bentrefi yn Fietnam, oherwydd roedd Philip yn meddwl be' oedd y rhyfel amdano oedd dau ddiwylliant hollol wahanol, Asiaid ac Americanwyr, ac hefyd y Gorllewin a'r Dwyrain.

"'Nath o sgwennu yn 1970 "this is the final conflict between the East and the West." Heddiw dan ni'n siarad am frwydro all ddigwydd, gobeithio ddim, yn y dyfodol rhwng America a China, diwylliant Ewropeaidd a diwylliant Asia."

vietnamFfynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths | Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Pentref Ben Tre yn y delta yn Ne Fietnam, a gafodd ei ddinistro yn ystod y Tet offensive yn 1968

"'Nath o hefyd gyhoeddi llyfrau eraill am Fietnam – un o'r enw Agent Orange yn olrhain hanes yr effaith gafodd y cemegau 'ma ar Fietnam am ddegawdau wedi'r rhyfel.

"'Nath o hefyd sgrifennu 'Vietnam at peace' yn edrych ar sut oedd Fietnam wedi datblygu. Gath o effaith mor fawr fel bod Phaidon wedi ail-gyhoeddi'r llyfr 30 mlynedd yn ddiweddarach, a Phaidon ydy cyhoeddwyr mwyaf y celfyddydau yn y byd.

"Roedd y fersiwn cafodd ei gyhoeddi yn 2001 yr union yr un peth a beth wnaeth Philip gyhoeddi yn 1971, 'nathon nhw ddim newid dim byd, heblaw am y rhagair gan Noam Chomsky - mae hynny'n dangos faint o barch o'dd 'na ledled y byd tuag at gwaith Philip.

"Pan gafodd y llyfr ei ail-gyhoeddi roedd o jest cyn yr ail ryfel yn Irac, ac roedd ganddo dal rhywbeth i'w ddweud, a dal yn lyfr pwysig, ac mae dal yn lyfr pwysig heddiw."

Bu farw Philip Jones Griffiths yn 2008, ond mae ei luniau trawiadol o Fietnam yn parhau i herio a dylanwadu hyd heddiw.

fietnamFfynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths | Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ffoi rhag y ffrwydron yn ardal Mai yn ystod y frwydr am Saigon

Pynciau cysylltiedig