Ar BBC iPlayer
Pan fyddwch wedi mewngofnodi, byddwn yn argymell rhaglenni rydyn ni’n meddwl y byddwch yn eu mwynhau, ar sail beth rydych eisoes wedi’i wylio. Chwiliwch am raglen sydd yn yr “Argymhellion i chi”.
Byddwn hefyd yn cofio faint rydych wedi’i wylio o raglen. Felly gallwch barhau o ble roeddech chi wedi cyrraedd, hyd yn oed ar ddyfais arall.
Ar BBC Sounds
Gallwch ddarganfod synau newydd drwy’r adran Argymhellion i Chi, gyda deunydd ar-alw a ddewiswyd yn arbennig ar eich cyfer chi.
Byddwn yn cadw eich chwiliadau diweddar, er mwyn i chi allu dod o hyd iddynt eto yn gyflym. Gallwch ddiffodd eich Hanes Chwilio (a’i roi yn ôl ymlaen) unrhyw bryd drwy osodiadau eich cyfrif BBC.
Bydd gennych fynediad un tap hefyd at i benodau newydd o bodlediadau a rhaglenni radio'r BBC, a gallwch hefyd arbed penodau neu glipiau er mwyn gwrando arnyn nhw nes ymlaen.
Ar ap BBC Sport
Mae My Sport yn ffordd hawdd o gael y wybodaeth a’r sgoriau diweddaraf ar gyfer y chwaraeon a’r timau rydych yn eu hoffi.
Dewiswch o blith dros 300 o destunau chwaraeon i greu eich tudalen My Sport eich hun. A mewngofnodwch i gael mynediad iddi ar eich holl ddyfeisiau.
Hefyd, gallwch ddewis derbyn hysbysiadau am Bêl-droed, Formula 1, Criced, Rygbi'r Undeb, Rygbi'r Gynghrair a'r Newyddion Chwaraeon diweddaraf.
Ar BBC News
Weithiau byddwn ni'n argymell erthyglau sydd wedi eu seilio ar beth rydych chi wedi ei ddarllen o'r blaen, a beth mae pobl â chwaeth debyg yn ei ddarllen.
Dydyn ni byth yn cuddio straeon oddi wrthoch chi, a gellir cael mynediad at y prif straeon yn hawdd bob amser.
Ar BBC Weather
Gall BBC Weather roi rhagolygon wedi’u teilwra i chi sydd wedi eu seilio ar eich hoff leoliadau.
Pan rydych chi’n ychwanegu lleoliad, fel y dref rydych chi’n byw, byddwn yn ei ddefnyddio i roi gwybodaeth leol berthnasol i chi. Ac os ydych chi’n mewngofnodi i’r BBC, bydd eich lleoliadau ar gael ar draws eich holl ddyfeisiau.
Rydyn ni’n galw’r lleoliadau rydych chi wedi eu cadw yn “Fy Lleoliadau”. Cewch wybodaeth pellach am “Fy Lleoliadau” yn Tywydd.
Ar eich cyfer chi
Mae ‘Ar eich cyfer chi’ yn dod â chynnwys y BBC at ei gilydd mewn un lle. Bydd y rhan fwyaf o’r cynnwys yn cael ei ddewis i chi’n bersonol. Proses awtomataidd sy’n dewis y cynnwys nid golygyddion.
Bydd yn dewis cynnwys i chi ar sail beth rydych chi wedi’i wylio, wedi gwrando arno, wedi’i ddarllen neu wedi’i ddilyn. Bydd hefyd yn cynnig cynnwys newydd, cynnwys sy’n trendio a chynnwys poblogaidd.
Ar BBC Children’s
Gall plant ychwanegu eu hoff sioeau a thestunau. Mae hynny’n golygu y byddan nhw'n ymddangos ar frig tudalennau CBBC a CBeebies, gan ei gwneud yn haws dod o hyd iddyn nhw.
Ar BBC Bitesize
Ar y wefan, gallwch greu eich profiad dysgu personol eich hun drwy ychwanegu pynciau uwchradd neu ôl-16 oed a chanllawiau dysgu - a gallwch ddod yn ôl atyn nhw o lle wnaethoch chi orffen.
Yn yr ap adolygu, gallwch ychwanegu eich pynciau TGAU neu Safon Uwch i weld beth sy’n berthnasol i chi yn unig. Hefyd, gallwch ychwanegu canllawiau adolygu byr i'ch hafan fel y gallwch ddod yn ôl atyn nhw’n gyflym.
Cadwch eich llygaid ar agor
Rydym wastad yn ychwanegu ffyrdd newydd o wneud y BBC yn bersonol i chi. Felly cadwch olwg amdanyn nhw ar draws y BBC.