Diweddarwyd y dudalen: 14 Rhagfyr 2021
Pan rydych chi'n cofrestru, rydym yn gofyn am ganiatâd i anfon e-byst atoch chi. Os gytunwch chi, byddwch chi'n derbyn cylchlythyrau rheolaidd ynglŷn â'r rhaglenni, gwasanaethau a phrofiadau diweddaraf ar draws y BBC. Weithiau, byddwn yn personoleiddio eich cylchlythyr yn ôl sut rydych chi wedi defnyddio gwefannau ac apiau'r BBC pan ydych chi wedi mewngofnodi.
Oes gennych chi ddiddordeb? Gallwch hefyd danysgrifio i'r cylchlythyrau yma.
Cofia, os wyt ti o dan 16, bydd rhaid i ti gael caniatâd rhiant neu warchodwr.
Cylchlythyrau eraill y gallwch chi danysgrifio iddynt
- BBC News Daily - tanysgrifiwch i'n cylchlythyr er mwyn derbyn BBC News yn syth i'ch e-bost, bob bore Llun i Gwener
- BBC World Service - cymerwch olwg ar y byd tu hwnt i'r penawdau gyda chylchlythyr y World Service
- BBC Media Action - dyma elusen ryngwladol y BBC - rydyn ni'n credu mewn defnyddio'r cyfryngau a chyfathrebu mewn modd cadarnhaol
Yn ogystal, mae yna gylchlythyrau ynghylch sianeli a rhaglenni penodol y BBC hefyd. Gallwch danysgrifio i'r rhain drwy bori'r BBC.
Mae rhai negeseuon e-bost yn hanfodol
Fel negeseuon i ailosod eich cyfrinair neu ddilysu eich cyfeiriad e-bost. Ni fyddwn yn anfon y negeseuon hyn atoch chi oni bai fod gwir angen gwneud hynny.
Ddim eisiau derbyn cylchlythyr ddim mwy?
Gallwch ddad-danysgrifio o gylchlythyrau unrhyw bryd. Cliciwch y botwm "Unsubscribe" ar waelod yr e-bost.
Ar gyfer y cylchlythyrau Discover more from the BBC a BBC News Daily, gallwch hefyd danysgrifio neu ddad-danysgrifio yn eich dewisiadau e-bost.
Tu allan i'r DU?
Tu allan i'r DU, mae gwasanaethau'r BBC wedi eu hariannu'n fasnachol. Os ydych chi wedi rhoi caniatâd ar wahân i'n cangen fasnachol, BBC Global News, efallai y byddan nhw hefyd yn cysylltu â chi ynglŷn â nwyddau neu wasanaethau'r BBC.
Yn ogystal, efallai na fyddwch chi'n gallu derbyn yr holl gylchlythyrau sydd ar gael o fewn y DU.
Mae eich data yn gyfrinachol
Pan fyddwn ni’n defnyddio sefydliadau eraill i anfon cylchlythyrau ar ein rhan, bydd eich cyfeiriad e-bost wedi ei warchod bob amser. Darllenwch fwy am eich gwybodaeth a'ch preifatrwydd.