Chwyldro technolegol

Part of DyniaethauDaearyddiaeth

Beth yw'r chwyldro technolegol?

Wyt ti erioed wedi meddwl am fywyd heb ffôn symudol, tabled neu gemau cyfrifiadur? Galli di ddychmygu ceisio ymchwilio ar gyfer gwaith cartref heb y rhyngrwyd?

Rydyn ni’n defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg bob dydd – gartref, yn yr ysgol a phobman arall. Mae’n teimlo fel ein bod ni’n gallu gwneud unrhywbeth ar-lein, o siopa bwyd i chwarae gemau gyda’n ffrindiau.

Mae yna bobl wnaeth dyfu lan heb y dechnoleg anhygoel yma. Mae'n bosib iawn bod dy rieni a dy athrawon yn rhai o'r bobl hyn. Roedd yn rhaid iddyn nhw ddarllen llyfrau i wneud eu gwaith cartref, mynd i'r siopau i brynu eu bwyd a chwrdd yn y parc i chwarae gyda'u ffrindiau.

Fideo - Chwyldro technolegol

Y rhyngrwyd

Darlun o gyfrifiadur.

Cyfrifiaduron ar draws y byd sydd wedi eu cysylltu gyda ei gilydd yw’r rhyngrwyd. Mae wedi newid y ffordd rydyn ni'n gwneud llawer o bethau, ac rydyn ni'n ei defnyddio bob dydd ym mhob rhan o’n bywydau.

Pan rydyn ni’n defnyddio gwefannau a rhai apiau, rydyn ni’n defnyddio'r rhyngrwyd i wneud pethau fel darganfod gwybodaeth, cysylltu â phobl, siopa a chwarae gemau.

Darlun o gyfrifiadur.

Cyfathrebu

Mae'r rhyngrwyd a ffonau symudol wedi newid y ffordd rydyn ni'n cyfathrebu gyda'n gilydd. Cyn i ni eu cael, roedd rhaid i bobl ddefnyddio'r ffonau yn eu tai neu'r rhai mewn ciosgau ar y stryd. Roedd yn rhaid iddyn nhw anfon llythyr neu gerdyn post os oedden nhw eisiau ysgrifennu at rywun.

Heddiw mae'n llawer haws oherwydd bod gan gymaint o bobl gyfrifiaduron, tabledi a ffonau symudol. Gallwn ni ddefnyddio'r rhain i anfon a derbyn e-bost a negeseuon testun gan ddefnyddio gwahanol apiau. Mae’n bosib tynnu llun neu ffilmio fideo a'i anfon i ochr arall y byd mewn eiliadau.

Cyfryngau cymdeithasol

Darlun yn dangos enghraifft o gyfryngau cymdeithasol ar ddyfais symudol.

Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd i gyfathrebu. Mae miliynau o bobl ledled y byd yn mwynhau eu defnyddio i rannu fideos a lluniau, sgwrsio â ffrindiau a hyd yn oed chwarae gemau yn erbyn ei gilydd.

Ond mae yna bethau gwael am y cyfryngau cymdeithasol hefyd. Dwy o'r anfanteision yw bod treulio gormod o amser arnyn nhw yn gallu bod yn ddrwg i ti, ac maen nhw’n rhoi cyfle i seiber-fwlis fod yn gas wrth bobl.

Darlun yn dangos enghraifft o gyfryngau cymdeithasol ar ddyfais symudol.

Adloniant

Mae'r ffordd rydyn ni'n gwrando ar gerddoriaeth ac yn gwylio'r teledu wedi newid hefyd. Does dim rhaid mynd i'r siopau i brynu CDs neu DVDs os nad wyt ti eisiau gwneud hynny. Rwyt ti’n gallu ffrydio cerddoriaeth, ffilmiau a rhaglenni teledu dros y we heb orfod gadael dy soffa hyd yn oed.

Oeddet ti'n gwybod?

  • Anfonwyd yr e-bost cyntaf yn 1971, o un cyfrifiadur i un arall yn yr un ystafell.
  • Cafodd yr alwad ffôn symudol cyntaf ei gwneud ym 1973, gan ddefnyddio ffôn oedd y pwyso dros 1.1kg – mae hynny ychydig yn drymach na ffonau symudol heddiw.
  • Cafodd y wefan gyntaf erioed, a aeth yn fyw yn 1991, ei chreu gan Tim Berners-Lee, y dyn wnaeth ddyfeisio y we fyd-eang yn 1989.

Manteision technoleg

Siopa ar-lein a siopau y stryd fawr.
  • Rwyt ti’n gallu defnyddio dy gyfrifiadur, tabled neu ffôn i ymchwilio a dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd i dy helpu gyda gwaith ysgol.
  • Mae siopa ar-lein yn gyfleus iawn - galli di brynu bron unrhyw beth heb symud o’r tŷ.
  • Rwyt ti’n gallu aros mewn cysylltiad gyda dy holl ffrindiau a dy deulu, hyd yn oed os ydyn nhw’n byw ymhell i ffwrdd.
  • Mae'n gadael i ti chwarae gemau gyda dy ffrindiau a gyda phobl o bob cwr o'r byd.
Siopa ar-lein a siopau y stryd fawr.

Anfanteision technoleg

  • Mae seiber-fwlio neu drolio ar-lein yn gallu achosi gofid i bobl.
  • Gall gormod o amser sgrîn wneud drwg i dy lygaid ac effeithio ar ba mor dda wyt ti’n cysgu.
  • Mae hacwyr a throseddwyr yn gallu trio twyllo pobl yn y byd ar-lein, er mwyn dwyn gwybodaeth bersonol a hyd yn oed arian.

Gweithgareddau

1. Manteision ac anfanteision technoleg

A yw technoleg yn dda neu'n ddrwg?

Dyma frawddegau sydd naill ai'n fanteision neu'n anfanteision technoleg. Darllena bob un yn ofalus, cyn eu rhoi nhw yn y golofn gywir yn y tabl.

  • Ar ôl treulio gormod o amser yn edrych ar sgriniau mae fy llygaid yn brifo, ac rwy'n cael trafferth cysgu.

  • Rwy'n gallu siarad gyda theulu a ffrindiau o bell.

  • Pan rwy'n chwarae gemau ar-lein, weithiau bydd plant eraill yn galw enwau arna i.

  • Dydw i ddim yn mynd allan i chwarae cymaint ag oeddwn i'n arfer - rydw i'n gwneud llai o ymarfer corff.

  • Rwy'n defnyddio'r rhyngrwyd i helpu gyda fy ngwaith cartref, mae'n ddefnyddiol iawn wrth geisio dod o hyd i ffeithiau diddorol am unrhyw beth.

  • Weithiau bydd chwarae gemau cyfrifiadur yn tynnu fy sylw a dydw i ddim yn gallu canolbwyntio ar fy ngwaith ysgol.

  • Rwy'n cael cymaint o hwyl yn chwarae gwahanol gemau ar-lein gyda fy ffrindiau.

  • Rydw i bob amser yn tecstio fy ffrindiau, ond dwi ddim yn gwneud yr amser i siarad â nhw wyneb yn wyneb.

  • Mae hacwyr a throseddwyr yn dwyn gwybodaeth bersonol o fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

  • Rwy'n gwneud fy holl siopa heb symud o fy ystafell fyw.

  • Mae defnyddio e-bost wrth weithio gymaint yn haws ac yn gyflymach nag anfon llythyr.

  • Mae datblygiadau mewn technoleg feddygol yn fy helpu i wella ar ôl gorfod mynd i'r ysbyty.

Manteision technolegAnfanteision technoleg

2. Tasg ysgrifenedig neu ddadl lafar

'Mae bodau dynol yn dibynnu gormod ar dechnoleg’. Trafodwch.

  • Ysgrifenna am dy farn ar y datganiad: ‘Mae bodau dynol yn dibynnu gormod ar dechnoleg’.
  • Meddylia am ddwy ochr y ddadl. Bydd rhai pobl yn cytuno a bydd rhai yn anghytuno â'r datganiad. Dylet ti feddwl am fanteision ac anfanteision technoleg cyn penderfynu ar dy farn dy hun.
  • Defnyddia wybodaeth a ffeithiau i gefnogi dy farn. Gwna dy ymchwil dy hun i ddod o hyd i ffeithiau diddorol am sut rydyn ni'n defnyddio technoleg.
  • Ysgrifenna am dy brofiadau dy hun o ddefnyddio technoleg. Wyt ti neu aelodau o dy deulu yn dibynnu gormod ar dechnoleg? Sut mae'n ddefnyddiol? Ydy e’n gallu bod yn beryglus?
  • Defnyddia iaith briodol wrth fynegi barn. Dechreua dy frawddegau fel hyn:
    • Yn fy marn i …
    • Rwy'n credu …
    • Rwy'n teimlo fel pe bai …
    • Credaf fod …
    • Rhaid i mi gytuno / anghytuno …

3. Cwis: Chwyldro technolegol

More on Daearyddiaeth

Find out more by working through a topic