'Rhywbeth yn well na dim': Arian i warchod twristiaid rhag y glaw

Gallai busnesau twristaidd gael hyd at £20,000 i wella eu cyfleusterau, er mwyn ceisio gwarchod ymwelwyr rhag tywydd gwael.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y gronfa o £1m yn helpu i ymestyn y tymor twristaidd, wrth i'r hinsawdd fynd yn fwyfwy ansefydlog.

Yn ôl ffigyrau Croeso Cymru, roedd 55% o fusnesau yn credu bod tywydd gwael yn rheswm pam bod llai o ymwelwyr yn ystod haf y llynedd.

Ond er i'r cyhoeddiad gael ei groesawu gan rai busnesau, mae un arbenigwr economaidd yn dweud bod angen buddsoddiad llawer mwy i wneud gwahaniaeth.

Mae BBC Cymru wedi bod allan i gasglu ymateb busnesau a'r cyhoedd i'r grantiau newydd.