'Fi dal i deimlo effaith stelcio saith mlynedd wedyn'

Fe ddechreuodd profiad Sara Manchipp o gael ei stelcio yn ôl yn 2017.

Roedd y negeseuon yn graffig iawn, ac yn sôn am lofruddiaeth a threisio - fe wnaeth hyn barhau am tua wyth mis.

Llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i'r person oedd yn gyfrifol a chanfod ei fod wedi bod yn targedu menywod eraill hefyd.

Fe gyfaddefodd i droseddau yn erbyn 10 menyw ac fe gafodd ei garcharu am ddwy flynedd a hanner.

Ar ôl cael ei ryddhau o garchar fe newidiodd ei enw ac aildroseddu.

Dywedodd Ms Manchipp: "Dyw e byth yn mynd, y pryder yma, er bod e gallu mynd i garchar, neud ei ddedfryd, dod mas a newid ei enw fe.

"I fi mae'r effaith yn enfawr. Fi dal i deimlo fe hyd yn oed nawr saith mlynedd wedyn.

"Hyd yn oed nawr pan bod neges newydd yn pingo lan ar Facebook rwy yn becso, ac yn sick yn fy mola pan bo fi yn gweld 'you have a message request', achos dyna lle dechreuodd e gysylltu â fi.

"Mae e wedi gwreiddio yn ddwfn ynddo fi erbyn hyn, fi dal yn meddwl amdano fe. A bod yn onest efalle bo fi yn bod yn silly, ond fi dal yn meddwl amdano fe.

"Fi'n ofni bod yn y tŷ ar ben fy hunan yn y nos a ma' raid i ffonio partner fi a chael pob golau 'mlan.

"Ma' fe byth yn mynd i ffwrdd. Er bo' fi yn symud 'mlan, a dod yn fwy cryf, ni dal yn gorfod edrych dros ein 'sgwyddau ni fel pobl sy' wedi cael eu stelcio.

"Dyle mwy cael ei 'neud i sicrhau fod pobl sy yn ddioddefwyr yn cael yr help sy' angen arnyn nhw achos ma 100% angen e."

Dylai pobl sydd wedi cyflawni troseddau llofruddiaeth, dynladdiad neu stelcio gael eu gorfodi i fyw mewn ardaloedd cyfyngedig ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar ar drwydded, meddai ymgyrchwyr.

Dywed Rhianon Bragg, o Wynedd, ei bod yn teimlo'n "gaeth" ar ôl i'w stelciwr gael ei ryddhau o'r carchar yn amodol - doedd ganddo ddim hawl i fynd i bedair sir o gwmpas ei chartref.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yr hyn sy'n cael ei alw yn barthau gwahardd yn atal troseddwyr rhag mynd at ddioddefwyr.

Mae Ms Bragg yn rhan o grŵp o ddioddefwyr sy'n dweud y dylai cyn-garcharorion "risg uchel" fod ond yn gallu byw, gweithio a theithio mewn ardaloedd penodol o'r DU am weddill eu hoes.

Mae rhai arbenigwyr yn poeni y gallai dull o'r fath fod yn gyfystyr â mynd yn groes i hawliau dynol troseddwyr.